Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (7) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gofynnwyd y 15 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl.
14.29
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
14.43
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio Cyllidol
15.26
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: TB Buchol
16.15
5. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwasanaethau Cyhoeddus
16.44
6. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau'r Diwydiant Dwr (Cynlluniau ar gyfer Mabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011
NDM4739 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r
Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Cynlluniau i Fabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011 yn cael
ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2011.
Derbyniwyd y
cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
17.00
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Ynni
NDM4727 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4634, ddarpariaethau pellach a gyflwynwyd yn y Bil Ynni ynghylch Dal a Storio Carbon, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael mynediad i NNDM4634 drwy’r linc a ganlyn:
I weld copi o’r Bil Ynni:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/energyhl.html
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
17.12
8. Dadl ar Ffioedd Addysg Uwch
NDM4740 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r modd y caiff addysg uwch ran-amser ei hariannu ac i sicrhau cyllid mwy teg ar gyfer myfyrwyr rhan-amser sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘Yn croesawu’ a rhoi ‘Yn nodi’ yn ei le.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai nod y diwygio hwn yw trin myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn yn gyfartal.
Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori’n llawn â sefydliadau addysg uwch wrth asesu effaith unrhyw newidiadau i’r trefniadau cyllido ar gyfer addysg uwch ran-amser.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Ni chynigiwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai nod y diwygio hwn yw trin myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn yn gyfartal.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori’n llawn â sefydliadau addysg uwch wrth asesu effaith unrhyw newidiadau i’r trefniadau cyllido ar gyfer addysg uwch ran-amser.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36:
NDM4740 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r modd y caiff addysg uwch ran-amser ei hariannu ac i sicrhau cyllid mwy teg ar gyfer myfyrwyr rhan-amser sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai nod y diwygio hwn yw trin myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn yn gyfartal.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori’n llawn â sefydliadau addysg uwch wrth asesu effaith unrhyw newidiadau i’r trefniadau cyllido ar gyfer addysg uwch ran-amser.
18.02
9. Dadl Fer
NDM4729 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Prydau ysgol heb stigma
Daeth y cyfarfod i ben am 18.25
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 on Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011